Role coordinated by:
Ellen Carter
Research Associate
t: +44 (0) 20 3928 7362
Primary Practice Group: Higher Education and Research
Salary & Benefits: Cardiff University will offer an attractive salary, commensurate with experience, for a highly talented postholder in this role. Cardiff offers 37 days per annum of annual leave, and a USS pension. Relocation expenses (up to a maximum of £8,000) will be available for candidates moving to Cardiff.
Closing Date: 13/12/2023
Formal Interview Date: 13 February 2024
Cardiff University was established in 1883. Our motto, Gwirionedd, Undod a Chytgord - ‘Truth, Unity and Concord’ - sets out our founding commitment to work together to make a positive and lasting difference to our communities and continues to express our commitment today. We are one of the largest universities in the UK and a member of the Russell Group. Our vision is to be a world-leading, research-excellent, and educationally outstanding global university with a transformative social, cultural and economic impact on Cardiff, Wales, the UK and the world. We are firmly grounded in our sense of place. As the largest university in Wales – and a major employer, with more than 7,000 staff – we work with society, industry and government to help overcome the most urgent challenges of our times.
It is an exciting time to join the University, following the recent arrival of our new Vice-Chancellor Professor Wendy Larner who took up her position in September 2023. The first woman in the history of Cardiff University to hold this position, Professor Larner’s leadership marks the start of a new phase of strategic development for the University.
We are now seeking to appoint a Head of the School of Law and Politics. The School of Law and Politics is research-led with a reputation for internationally excellent research and impact. Our interdisciplinary nature defines our research environment and creates unique opportunities for staff and students to collaborate, and we are committed to providing an outstanding learning environment for our students so that they can explore the dynamic and fast-paced fields of Law, Politics, and International Relations.
Reporting to the Pro Vice-Chancellor and Head of the College of Arts, Humanities and Social Sciences, the Head of School will build on firm foundations and oversee the delivery of excellent education and student experience, foster research that matters globally, and inspire an inclusive culture.
The successful candidate will bring an excellent reputation in research and teaching, but also be able to evidence leadership and management credentials with an inclusive, collaborative approach, and able to build positive relationships internally and externally. They will be a good communicator who can inspire, lead and motivate colleagues across the School. Crucially, they will be able to lead change and deliver against the strategic priorities of the College of Arts, Humanities and Social Sciences and the wider University. A demonstrable commitment to nurturing an inclusive environment for students and staff is essential, alongside a personal commitment to the core principles of opportunity, openness, transparency and respect for all.
The closing date for applications is at 23:59 GMT on Wednesday 13th December.
The role is full time for up to 5 years (with the possibility of a further term of 3 years). The role carries a non-pensionable allowance. The role as Head of School is attached to an underlying open - ended academic contract.
Cardiff University is committed to supporting and promoting equality and diversity and to creating an inclusive working environment. We believe this can be achieved through attracting, developing, and retaining a diverse range of staff from many different backgrounds. We therefore welcome applicants from all sections of the community regardless of sex, ethnicity, disability, sexual orientation, trans identity, relationship status, religion or belief, caring responsibilities, or age. In supporting our employees to achieve a balance between their work and their personal lives, we will also consider proposals for flexible working or job share arrangements.
Protecting your personal data is of the utmost importance to Perrett Laver and we take this responsibility very seriously. Any information obtained by our trading divisions is held and processed in accordance with the relevant data protection legislation. The data you provide us with is securely stored on our computerised database and transferred to our clients for the purposes of presenting you as a candidate and/or considering your suitability for a role you have registered interest in.
As defined under the General Data Protection Regulation (GDPR) Perrett Laver is a Data Controller and a Data Processor, and our legal basis for processing your personal data is ‘Legitimate Interests’. You have the right to object to us processing your data in this way. For more information about this, your rights, and our approach to Data Protection and Privacy, please visit our website http://www.perrettlaver.com/information/privacy.
Please visit the following link in order to find more information about the use of personal information provided by candidates to the university: https://www.cardiff.ac.uk/public-information/policies-and-procedures/data-protection
Should you require access to these documents in alternative formats or if you have comments that would support us to improve access to documentation, or our application processes more generally, please do not hesitate to contact us via accessibility@perrettlaver.com.
-----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Sefydlwyd Prifysgol Caerdydd ym 1883. Mae ein harwyddair, sef ‘Gwirionedd, Undod a Chytgord’ yn mynegi ein hymrwymiad sylfaenol i gydweithio i wneud gwahaniaeth parhaol ac er gwell i'n cymunedau, a pharhau y mae’r Brifysgol i gyfleu’r ymrwymiad hwnnw heddiw. Rydym yn un o'r prifysgolion mwyaf yn y DU ac yn aelod o Grŵp Russell. Ein gweledigaeth yw bod yn brifysgol sy’n arwain y byd, yn rhagorol ein hymchwil ac yn odidog ein haddysg, yn ogystal â chael effaith drawsnewidiol ar Gaerdydd, Cymru, y DU a'r byd. Rydym wedi ein gwreiddio'n gadarn yn ein hymdeimlad o le. A ninnau’r brifysgol fwyaf yng Nghymru – ac yn gyflogwr o bwys sydd â mwy na 7,000 o staff – rydym yn gweithio gyda’r gymdeithas, byd diwydiant a'r llywodraeth i helpu i oresgyn heriau mwyaf taer ein hoes.
Dyma amser cyffrous i ymuno â’r Brifysgol, yn dilyn penodiad diweddar yr Is-ganghellor newydd, yr Athro Wendy Larner, a ddechreuodd yn ei swydd ym mis Medi 2023. Yr Athro Larner yw’r fenyw gyntaf yn hanes Prifysgol Caerdydd i ddal y swydd hon, ac mae ei harweinyddiaeth yn cyd-fynd â chyfnod newydd o ddatblygiad strategol yn y Brifysgol.
Bellach, rydym eisiau penodi Pennaeth Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth. Mae Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn cael ei harwain gan ymchwil ac mae ganddi enw da am ymchwil a thraweffaith ragorol yn rhyngwladol. Mae ein natur ryngddisgyblaethol yn diffinio ein diwylliant ymchwil ac yn creu cyfleoedd unigryw i staff a myfyrwyr gydweithio â’i gilydd, ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau cyd-destun dysgu rhagorol i'n myfyrwyr fel y gallant archwilio’r Gyfraith, Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol sy’n feysydd deinamig sy’n bythol newid.
Gan adrodd i’r Rhag Is-ganghellor a Phennaeth Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, bydd Pennaeth yr Ysgol yn ehangu ar seiliau cadarn ac yn goruchwylio’r gwaith o ddarparu addysg ragorol a phrofiad myfyrwyr, yn meithrin ymchwil sydd o bwys byd-eang ac yn ysbrydoli diwylliant cynhwysol.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus enw da rhagorol ym maes ymchwil ac addysgu, ond bydd hefyd yn gallu dangos tystiolaeth o gymwysterau arwain a rheoli. Bydd ganddo ddull o gydweithio sy’n gynhwysol ac yn gallu meithrin perthnasoedd cadarnhaol yn fewnol ac allanol. Bydd yn gyfathrebwr da a all ysbrydoli, arwain ac ysgogi cydweithwyr ar draws yr Ysgol. Uwchlaw popeth, bydd yn gallu arwain y broses o newid a chyflawni yn unol â blaenoriaethau strategol Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol yn ogystal â'r Brifysgol yn ehangach. Mae ymrwymiad amlwg i feithrin cyd-destun cynhwysol i fyfyrwyr a staff yn hollbwysig, ar y cyd ag ymrwymiad personol i egwyddorion craidd cyfle, didwylledd, tryloywder a pharch at eraill.
Mae rhagor o fanylion, gan gynnwys disgrifiad o'r swydd, manyleb y person a gwybodaeth am sut i wneud cais ar gael drwy fynd i https://candidates.perrettlaver.com/vacancies, gan roi’r cyfeirnod 7001.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 23:59 GMT ddydd Mercher 13 Rhagfyr.
Lleoliad: Caerdydd
Cyflog: Bydd Prifysgol Caerdydd yn cynnig cyflog deniadol sy’n gyfatebol i brofiad ar gyfer deiliad swydd hynod dalentog yn y rôl hon. Mae Caerdydd yn cynnig 37 diwrnod y flwyddyn o wyliau blynyddol, a phensiwnUSS . Bydd treuliau adleoli (hyd at £8,000 ar y mwyaf) ar gael i ymgeiswyr sy’n symud i Gaerdydd.
Rôl amser llawn am hyd at 5 mlynedd yw hon (gyda'r posibilrwydd o gyfnod pellach o 3 blynedd). Mae'r rôl yn cynnwys lwfans nad yw'n bensiynadwy. Mae rôl Pennaeth Ysgol ynghlwm wrth gontract academaidd sylfaenol a phenagored.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gynorthwyo a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn y gellir gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o gefndiroedd gwahanol. Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr o bob rhan o’r gymuned, waeth beth fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran. Er mwyn cefnogi ein cyflogeion i gadw cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu swydd.
Mae diogelu eich data personol o’r pwys mwyaf i Perrett Laver, ac rydym yn cymryd y cyfrifoldeb hwn o ddifrif calon. Mae unrhyw wybodaeth sy’n dod i law ein his-adrannau masnachu’n cael ei chadw a'i phrosesu’n unol â’r ddeddfwriaeth diogelu data berthnasol. Mae’r data y byddwch yn ei roi inni yn cael ei gadw’n ddiogel yn ein cronfa ddata gyfrifiadurol a’i drosglwyddo i'n cleientiaid er mwyn eich cyflwyno’n ymgeisydd a/neu ystyried eich addasrwydd ar gyfer y rôl yr ydych wedi mynegi diddordeb ynddi.
Fel y'i diffinnir yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), mae Perrett Laver yn Rheolydd Data ac yn Brosesydd Data, a ‘Buddiannau Dilys’ yw ein sail gyfreithiol dros brosesu eich data personol. Mae gennych yr hawl i wrthwynebu ein bod yn prosesu eich data fel hyn. I gael rhagor o wybodaeth am hyn, eich hawliau a sut rydym yn sicrhau Diogelwch a Phreifatrwydd Data, ewch i’n gwefan http://www.perrettlaver.com/information/privacy.
Cliciwch y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth am sut y defnyddir gwybodaeth bersonol ymgeiswyr i'r Brifysgol: https://www.cardiff.ac.uk/cy/public-information/policies-and-procedures/data-protection